Y Pwyllgor Menter a Busnes |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 22 Medi 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 12:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Andrew RT Davies (Cadeirydd) Byron Davies Keith Davies Julie James Alun Ffred Jones Eluned Parrott David Rees Ken Skates Joyce Watson Leanne Wood |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Huw Lewis, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth Chris Warner, Regeneration Richard Harris, Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategic Regeneration and Heads of the Valleys Alun Davies, Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd Damien O'Brien, Cyfarwyddwr, WEFO Jane McMillan, Acting Director Programme Management and Finance Division, WEFO Edwina Hart, Y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Siân Phipps (Clerc) Meriel Singleton (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
1. Ymddiheuriadau, cyflwyniad a dirprwyon
1.1. Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon. Croesawodd y Cadeirydd Eluned Parrott i’w chyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor Menter a Busnes.
2. Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog: Adfywio ( 9.30 -10.15)
2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, a’i swyddogion, i’r cyfarfod. Holwyd y tystion gan Aelodau.
3. Sesiwn i graffu ar waith y Dirprwy Weinidog: Rhaglenni Ewropeaidd ( 10.15 - 11.00)
3.1. Croesawodd y Cadeirydd y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, a’i swyddogion, i’r cyfarfod. Holwyd y Dirprwy Weinidog gan Aelodau.
3.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor er mwyn rhoi:
· Rhagor o wybodaeth am lwyddiant prosiectau cyllid Ewropeaidd
· Rhagor o wybodaeth a data am nifer y bobl a chwmnïau sydd wedi cael budd o gyllid Ewropeaidd
4. Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog: Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth ( 11.00 - 12.00)
4.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, a’i swyddogion, i’r cyfarfod. Holwyd y Gweinidog gan Aelodau.
4.2 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor ynghylch gwahaniaethau rhwng adfywio ac adnewyddu economaidd yn sgîl y sylwadau a wnaed gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn gynt yn y cyfarfod.
4.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog er mwyn gofyn y cwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y cyfarfod.
5. Papurau i'w nodi
5.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ganlynol:
· Gohebiaeth gan Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, ynghylch cyfarfod y Pwyllgor Menter a Busnes ar 13 Gorffennaf 2011
· Gohebiaeth gan Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, ynghylch cyfarfod y Pwyllgor Menter a Busnes ar 13 Gorffennaf 2011
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.